Index: Songs

I Wisgo Aur-Goron

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

I wisgo aur-goron y byd ar ei phen,
Hir oes i Frenhiniaeth yr hen Ynys Wen;
I chwifio prif faner y byd ar y don,
Hir einioes i rinwedd yr hen ynys hon.
O! bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi.”

Mae llanw cerddoriaeth yn dod fel y mo+r
Mae pawb yn y cydgan, mae pawb yn y co+r;
Mae codiad y dwylo a churiad y traed,
A’r fanllef yn dwedyd “hir, hir y parhaäd.”
O! bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi!”

Mae calon Pumlumon yn adsain o bell,
A chregiau’r Eryri yn dweud “Henffych Well”;
Parhäed Brenhinaetih yr hen Ynys Wen
Yn fendith i’r ddaear, tan fendith y nen:
A bydded craig-wregys ein hynys wen ni,
Yn herio cynddeiriog nerth llidiog y lli,
“Mewn Awen fwyn lawen byw byth y bo hi!”