Index: Songs

Llwyn Onn

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

Y lloer oedd yn codi dros gopa'r hen dderwen
A'r haul a fachludai i ddyfnder y don,
A minnau mewn cariad a'm calon yn curo
Yn disgwyl f'anwylyd dan gysgod Llwyn Onn;
Mor wyn y bythynnod gwyn galchog ar wasgar
Hyd erchwyn cyfoethog mynyddig fy mro:
Adwaenwn bob tyddyn, pob boncyff a brigyn
Lle deuai cariadon i rodio'n eu tro.

Mor hir y bu'r disgwyl o fore hyd nowsgyl,
Mor gyndyn bu'r diwrnod yn dirwyn i ben:
A minnau mor hapus, ac eto mor glwyfus,
A'm meddwl a'm calon yn eiddo i Gwen:
Cysgodion yr hwyr oedd yn taenu eu cwrlid,
A hir oedd ymaros ar noson fel hon,
Ond pan ddaeth fy nghariad cyflymai pob eiliad,
Aeth awr ar amrantiad, dan gysgod Llwyn Onn.


variant: 'erwau' is sometimes used instead of 'erchwyn' in line 6.