Index: Songs

Canaf yn y bore am dy ofal cu

Author: William Bryn Davies (1865-1921)

Contributed by: David Wood

Llys Aeron (L. J. Roberts)

Canaf yn y bore,
Am dy ofal cu;
Drwy yr hirnos dywyll
Gwyliaist trosof fi.

Diolch iti, Arglwydd,
Nid ateliaist ddim;
Cysgod, bwyd a dillad,
Ti a’u rhoddaist im.

Cadw fi’n ddiogel
Beunydd ar fy nhaith;
Arwain fi mewn chwarae,
Arwain fi mewn gwaith.

Boed fy ngwaith yn onest,
Rho im galon bur;
Nertha fi i ddewis
Rhwng y gau a’r gwir.

Diolch iti, Arglwydd,
Yw fy llawen gân;
Canaf hyd nes cyrraedd
Broydd Gwynfa lân.