Index: songs

Mab yr Ystorm

Author: T. Gwynn Jones

Contributed by: David Wood


Fe lamodd y nos i'r wybrennau
  Lle gynnau 'r oedd golau claer wyn;
Mae'r bryniau  niwl ar eu pennau,
  A tharth hyd waelodion y glyn;
Daw'r awel leddf, hir, fel uchenaid
  O galon ddofn, ddistaw y coed,
A minnau, mae'r nos yn fy enaid
  Yn cofio ei hoed.

Daw ysbryd y storm i gyfarfod
   minnau ar ganol y rhos;
Ymdorchodd y fellten, a'i harfod
  Fel dydd rhwng dau eigion o nos;
A rhwygodd y daran yr entrych -
  Rhwyg, adrwyg, llam, adlam a su -
Chwardd dithau fy enaid
  Pan fentrych i ganol y rhu?

Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo,
  Mae'n awr yn chwibanu'n fy nghlust;
Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo
  Daw'r glaw ar fy nhalcen yn byst;
O! wynt, tro dy donnau amdanaf,
  A throch fi, di law, yn dy li,
A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf
  Eich angerdd gwyllt chwi!