Index: Songs

Merch Megan

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

“Mi welais fy merch” medd Gruffudd ap Cynan,
	“Ar ddiwedd y wwledd, pam digiodd fy mun?
Nis gwelais hi ’rioed mor brydferth yn unman,
	Caiff ddyfod yn o+l i’w haelwyd ei hun.
Er pan ymgadawodd mae’m calon ar dorri;
	Angharad, fy nghoron, O maddau i mi.”
“O nage,” medd Rhys, “nid eiddot mohoni,
	Nid merch i ti oedd, Merch Megan oedd hi.”

Merch Megan a’i mam elent adref i odro
	Ac un fuwch bob un yw’r oll ar eu llaw;
A cherbyd o aur arddunol ddaw yno,
	I ofyn am bwy, i Lys Aberfraw?
Yn blentyn mabwysiad, pwy godwyd o’r werin,
	I Lys y t’wysogion yn heulwen ei fri,
Sy’n fywyd a gwres wrth orsedd y brenin?
	Anrhydedd i’r tlawd, Merch Megan yw hi!