Index: Songs

Merch Y Melinydd

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Os yw fy annwyl gariad,
	Yn caru dwy neu dair;
Ac yn eu cadw’n foddlon,
	Bob marchnad a phob ffair;
O peidied yntau feddwl
	Fod hynny’n boen i mi,
’R wyf fi mor rhydd ag yntau,
	I garu dau neu dri.

’Phrioda’i ddim eleni,
	Chwedleua’i ddim a neb;
Twyllodrus iawn yw meibion
	A fedrant ddweyd yn deg.
Po deced bo nhwy’n gwedyd,
	O, gwaetha’i gyd y daw;
Llawenydd pob merch ifanc
	Yw dewis ar ei llaw.

Os oes rhyw dair neu bedair
	Yn hoff ohono ef;
Mae gennyf innau bedwar
	Ar bymtheg yn y dref:
Ond nhw sy’n gweyd fel yma,
	A nhw sy’n gweyd fel hyn;
’D wyf fi ond gwenu arnynt,
	A dal fy serch yn dyn.

Fe we+d fy mod yn euog,
	Oherwydd gwrid fy moch;
Os gwrida ef yn welw,
	Mi wrida innau’n goch.
A gwedaf yn ei wyneb,
	A gwyneb dewr pob dyn;
Llawenydd “Merch Melinydd,”
	Yw caru dim ond un.