Index: Songs

Myfanwy

Author: Unknown

Contributed by: David Wood

Paham mae dicter, O! Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O! Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau cariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?

Pa beth a wneuthum, O! Myfanwy,
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O! Myfanwy,
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod:
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.

Myfanwy, boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd,
A boed i rosyn gwridog ieuenctid
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, eneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion,
I ddim ond dweud y gair 'Ffarwél'.