Index: Songs

Myfi Sy’n Magu’r Baban

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Myfi sy’n magu’r baban,
	Myfi sydd yn siglo’r crud;
Myfi sy’n hwian, hwian,
	Yn hwian o hyd, o hyd
Bu’n crio bore heddiw
	O hanner y nos tan dri,
Ond fi sy’n colli cysgu,
	Mae’r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy’n magu’r plentyn,
	Bob bore a nawn a hwyr;
Y drafferth sydd i’w ganlyn,
	Myfi, dim ond fi a’i gw+yr.
Ni w+yr ef air o Saesneg,
	Nac un gair on’ heniaith ni:
I ddysgu’r t’wysog bychan,
	Mae’r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu
	I dyfu yn llencyn iach,
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
	Fod fyth ar ei wefus fach;
A phan ddaw yntau’n frenin,
	Ac onid yng nghofio i,
O cofied wlad y Cennin,
	Y wlad sydd mor annwyl i mi!