Index: Songs

Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen

Author: Peter Jones (Pedr Fardd) (1775-1845)

Contributed by: David Wood

Navarre (Salmydd Genefa)

Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen,
Cyn gosod haul, na lloer, na sêr uwchben,
Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un
I achub gwael golledig euog ddyn.

Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr,
Yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr;
A rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud,
Fel afon gref lifeiriol dros y byd.

Mae’r utgorn mawr yn seinio’n awr i ni
Ollyngdod llawn trwy’r Iawn ar Galfari:
Mawl ym mhob iaith trwy’r ddaear faith a fydd,
Am angau’r groes, a’r gwaed a’n rhoes yn rhydd.