Index: Songs

Pe Cawn i Hon

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Pe cawn i hon yn eiddo i mi
	O galon yn fy ngharu:
Ni fynnwn ddim o段 chyfoeth hi,
	Rhag ofn i知 serch glaearu.
Mae rhywbeth yn ei gwisg a段 gwedd,
	Ac yn ei hagwedd hygar,
Rhaid iddi fod fy地 eiddo i,
	Tra byddom ar y ddaear.

Pe cawn i hon yn eiddo i mi,
	O! fel gwnawn ei mynwesu,
Mae dweud ei henw ar hin oer,
	Yn gwneud i知 corff gynhesu.
Ond pe bai hi yn eiddo i mi,
	A段 serch yn dal yn glaear,
Ni fynnwn i mo檀onni hi,
	Ar gyfrif ar y ddaear!