Index: Songs

Ar fôr tymhestlog teithio 'rwyf

Author: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) (1795-1855)

Contributed by: David Wood

Penmachno (T. Hopkin Evans)

Ar fôr tymhestlog teithio ’rwyf
I fyd sydd well i fyw,
Gan wenu ar ei stormydd oll –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

Drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
A rhwystrau o bob rhyw,
Y’m dygwyd eisoes ar fy nhaith –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

Er cael fy nhaflu o don i don,
Nes ofni bron cael byw,
Dihangol ydwyf hyd yn hyn –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

Ac os oes stormydd mwy yn ôl,
Ynghadw gan fy Nuw,
Wynebaf arnynt oll yn hy –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

A phan fo’u hymchwydd yn cryfhau,
Fy angor, sicr yw;
Dof yn ddiogel trwyddynt oll –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

I mewn i’r porthladd tawel clyd,
O sw+n y storm a’i chlyw,
Y caf fynediad llon ryw ddydd –
Fy Nhad sydd wrth y llyw.