Index: Songs

Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr?

Author: John Elias (1774-1841)

Contributed by: David Wood

Penparc (J. T. Rees)

Ai am fy meiau i
Dioddefodd Iesu mawr,
Pan ddaeth yng ngrym ei gariad Ef
O entrych nef i lawr?

Cyflawnai’r gyfraith bur,
Cyfiawnder gafodd Iawn;
A’r ddyled fawr, er cymaint oedd,
A dalodd Ef yn llawn.

Dioddefodd angau loes,
Yn ufudd ar y bryn;
A’i waed a ylch yr Ethiop du
Yn lân fel eira gwyn.

Bu’n angau i’n hangau ni
Wrth farw ar y pren;
A thrwy ei waed y dygir llu,
Trwy angau, i’r nefoedd wen.

Pan grymodd Iesu ei ben,
Wrth farw yn ein lle,
Agorodd ffordd, pan rwygai’r llen,
I bur drigfannau’r ne’.

Gorchfygodd uffern ddu,
Gwnaeth ben y sarff yn friw;
O’r carchar caeth y dygir llu,
Trwy ras, i deulu Duw.