Index: Songs

Suo Ga+n

Author: Unknown

Contributed by: David Wood


Huna blentyn ar fy mynwes,
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy'n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni chaiff dim amharu'th gyntun,
Ni wna undyn a+ thi gam;
Huna'n dawel, annwyl blentyn,
Huna'n fwyn ar fron dy fam.

Huna'n dawel heno, huna,
Huna'n fwyn, y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy'n gwenu
Arnat ti yn gwenu'n llon?
Tithau'n gwenu'n o+l dan huno,
Huno'n dawel ar fy mron?

Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddo+r;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y mo+r;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.