Index: Songs

Toriad Y Dydd

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Mae llawer un yn cofio,
	Yr eneth fechan ddall:
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
	Mor brydferth a mor gall.
Hi gerddodd am flynyddoedd,
	I ysgol Dewi Sant
Ar hyd y ffordd, o gam i gam,
	Yn nwylo rhai o’r plant.
’R oedd gofal pawb amdani,
	A phawb yn hoffi’r gwaith,
O helpu’r eneth fach ymlaen
	Trwy holl drofeydd y daith.
Siaradai’r plant am gaeau,
	A llwybrau ger y lli
Ac am y blodau tan eu traed,
	ond plentyn dall oedd hi.

Hi glywai felus fiwig
	Yr adar yn y dail;
Hi deimlai ar ei gwyneb bach,
	Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau’r ddaear:
	Ond, nis adwaenai’r fun
Mo we+n yr haul, a mwy na’r oll
	Mo we+n ei mam ei hun.
Mae’r plentyn wedi marw,
	Ar wely angau prudd,
Hi wenodd ar ei mam gan ddweyd
	“Mi welaf doriad dydd!”
Ehedodd mewn goleuni,
	Oddiwrth ei phoen a’i phall;
A gweled golygfeydd y nef,
	Y mae yr Eneth Ddall!