Index: Songs

Tydi, a roddaist

Author: T. Rowland Hughes

Contributed by: David Wood


Tydi, a roddaist liw i'r wawr,
A hud i'r machlud mwyn;
Tydi, a luniaist gerdd a sawr
Y gwanwyn yn y llwyn;
O! cadw ni rhag colli'r hud
Sydd heddiw'n crwydro drwy'r holl fyd.

Tydi, a luniaist ga+n i'r nant,
A'i si i'r goedwig werdd;
Tydi, a roist i'r awel dant,
Ac i'r ehedydd gerdd;
O! cadw ni rhag dyfod dydd
Na yrr ein calon ga+n yn rhydd.

Tydi, a glywaist lithriad traed
Ar ffordd Calfaria gynt;
Tydi, a welaist ddafnau gwaed
Y gw+r ar ddieithr hynt:
O! cadw ni rhag dyfod oes
Heb goron ddrain, na chur, na chroes.

Amen.