Index: Songs

Y Mynach Du

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Hen Fynach Du Caerlleon Gawr,
Yn gwrando clychau’r ddinas fawr;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong,
A rodiai hyd y muriau’n syn,
Gan ddwedyd wrtho’i hun fel hyn,
O! pa hyd mewn gefynnau tyn,
Cedwir ef ein brenin cu,
Yn ei garchar oer a du,
Nos a dydd i wrando’n brudd;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong
Ai cnul ein Hannibyniaeth yw?
O ga+d i Ryddid eto fyw,
Trwy holl Gymru wen O Dduw!

Mae llawer tro ar fyd er hyn
Er pan glywai’r mynach syn,
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong,
Ar lannau’r Ddyfrdwy ar bob pryd;
O ddydd i ddydd hyd ddiwedd byd,
Y mae’r clychau’n fyw o hyd.
Hyd y muriau megis gynt,
Yn cydgwynfan gyda’r gwynt,
Yn ein clyw su oesol yw;
	Ding, dong, ding, dong, ding, dong;
’D oes neb am frenin heddiw’n brudd,
Ond fel yr hedydd doriad dydd,
Y mae holl Gymru wen yn rhydd.