Index: Songs

Y Saith Gysgadur

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Trigai gwraig bur gysglyd gynt,
	Yn Llan Mathafarn Eithaf,
Bloeddiai’r gw+r nes colli’i wynt,
Hi gysgai er ei waethaf:
“Hei ho! medd hi, fel teisen gri,
	Medd yntau, wedi sorri;
Os nad wyt sa+l, cwyd o dy wa+l,
	Neu aros tan yfory!”

Twr o blant am ddeg o’r gloch,
	Ddechreusant sw+n a chyffro;
’Gwedi bloeddio creulon croch,
	Medd hithau’n hanner effro:
“Am saldra’n awr, nis gwyddoch fawr,”
	Medd yntau “gwn o’re gore,
Dylyfu ge+n yw’th saldra hen,
	A’th glefyd di bob bore.”

Yna gw+r y wraig ddifudd,
	Darawyd gan y clefyd;
Cysgai’r plant tan hanner dydd,
	A chysgai yntau hefyd!
Ddo’r un o’i glwyd i’w fore fwyd,
	Na chynnau ta+n y bore;
Ac felly siw+r, y wraig a’r gw+r,
	Wnaent gysgu am y gore.