Index: Songs

Yn Iach Iti Gymru

Author: John Ceiriog Hughes

Contributed by: David Wood

Yn iach iti Gymru, ffarwèl i’th fynyddoedd,
	Dy nentydd grisialog a’th ddolydd di-ail;
Y coedydd lle treuliais fy ieuanc flynyddoedd,
	Lle gwyliais agoriad y blodau a’r dail!
Mae’r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf,
	O gwae imi feddwl ymadael erioed;
Ffarwèl o’r holl famau, y buraf, a’r lanaf,
	A’m cartref gwyn annwyl yng nghanol y coed!

Fy nwylo ddychwelant yn llawn neu yn weigion
	I agor drws annwyl fy nghartref gwyn draw.
Mae’r afon yn sisial yng nghlust yr hen eigion,
	Gan ofyn pa ddiwrnod yn o+l a fi ddaw!
O! am dy hen awyr i wrido fy ngruddiau,
	A’m hwian fel plentyn i huno mewn hedd;
A phan y gadawaf hen fyd y cystuddiau,
	Rhwng muriau’r hen fynwent O torrwch fy medd.