Index: Taliesin

Urien yng Ngorffowys

Author: Taliesin

Contributed by: David Wood

Urien yng Ngorffowys - Llyfr Taliesin #58

Eg gorffowys can rychedwys
parch a chynnwys. a med meuedwys.
Meuedwys med y oruoled
a chein tired imi yn ryfed.
A ryfed mawr ac eur ac awr.
Ac awr a chet a chyfriuet
a chyfruiyant. A rodi chwant.
chwant oe rodi yr vy llochi.
Yt lad yt gryc yt vac yt vyc.
yt vyc yt vac yt lad yn rac.
racwed rothit y veird y byt.
Byt yn geugant itti yt wedant
wrth dy ewyllis. Duw ryth peris
rieu ygnis rac ofyn dybris.
Annogyat kat diffreidyat gwlat.
gwlat diffreidyat kat annogyat.
gnawt amdanat twrwf pystylat.
Pystalat twrwf ac yuet cwrwf.
Kwrwf oe yfet a chein trefret
a chein tudet imi ryanllofet.
Llwyfenyd van. ac eirch achlan
yn vn trygan mawr a bychan
taliessin gan tidi ae didan.
ys tidi goreu or a gigleu
y wrdlideu. Molaf inheu
dy weithredeu. 

Ac yny vallwyf hen
ym dygyn agheu aghen.
ny bydif ymdirwen
na molwyf vryen.