Index: William Thomas (Gwilym Marles) 1834-1879

Mynwent Cwmwr Du

Author: William Thomas (Gwilym Marles) 1834-1879

Contributed by: David Wood

Os carit gael gorweddfa glyd
  Ymhell o ddwndwr byd a'i drin,
Ar lan murmurog afon ferth
  A choed yn berth ar ei dwy fin;
Pa le cait lannerch fai mor gu
A mynwent fechan Cwmwr Du?

Hwy wedant, - cwsg y byw yn well
  Heb fod ymhell o si rhyw don,
Pan ddeffry miwsig pêr y llif
  Ddi-rif freuddwydion tan y fron:
Nis gwn, ond pwy na charai fedd
Lle chwery'r ffrwd ei salm o hedd?

Fe grwydra haf awelon pêr
  Trwy lathraidd dderw'r allt sy draw,
Pob dalen yn cyd-odli'n fwyn
  Ar gainc pob llwyn a'r ffrwd islaw;
Ac weithiau yn y gaeaf trwm
Ysguba'r corwynt trwy y cwm.

Mae masnach ar ei diwyd daith,
  A dyfais dyn ar waith o hyd,
Newidia llawer man ei wedd,
  Anurddir heddwch bore byd;
Ond yma, pe dôi'r hen ar hynt,
Caent bob peth agos megis cynt.

'R oedd yma fwci 'stalwm byd,
  Pan oedd y rhyd heb bont yn groes,
Dyn yn grogedig wrth ei draed, -
  Fe rewai'r gwaed weld y ddwy goes;
Pan godwyd pont ar Gloidach ddu,
Fe aeth y bwci gyda'r lli.

Yn iach, fwcïod!  Dilys yw
  Na flinwch chwi mo'r byw yn hwy;
Dydd eich gwasanaeth ddaeth i ben,
  O dan y llen gorffwyswch mwy;
Dyn ni chaiff aros yn ei nyth, -
A roir i chwi deyrnasu byth?

O fewn i'r unig wyrddlas bau,
  Yn pe fwynhau eu holaf hun,
Mae 'chydig o gyfeillion hoff,
  Heb faen i goffa am yr un;
Ond am eu gwa rinweddol foes
Fe bery'r cof o oes i oes.

Fe orffwys yna'r athro mad,
  Na lechai brad o dan ei fron;
A lle y gweli newydd fedd,
  Mewn tawel hedd, yn awr mae'r hon
A fu gymhares yn ei gôl,
A'i henw'n hyfryd ar ei hôl.

Heddwch i'w llwch! a doed y pryd
  Pan gaffwyf gyda mynwes iach
Ymweled weithiau a'r hen fro,
  A rhoddi tro trwy'r fynwent fach,
A chydaddoli gyda'r llu
Yng nghapel bychan Cwmwr Du.