Index: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Cariad at Dduw

Author: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Contributed by: David Wood

'R wy'n edrych dros y bryniau pell
  Amdanat bob yr awr;
Tyrd, fy Anwylyd, mae'n hwyrhau
  A'm haul bron mynd i lawr.

Tro fy nghariadau oll i gyd
  'Nawr yn anffyddlon im;
Ond yr wyf finnau'n hyfryd glaf
  O gariad mwy ei rym.

Cariad na 'nabu plant y llawr
  Mo'i rinwedd nac mo'i ras,
Ac sydd yn sugno'm serch a'm bryd
  O'r creadur oll i maes.

O gwna fi'n ffyddlon tra fwy' byw
  A'm lefel at dy glod,
Ac na fo pleser fynd a 'mryd
  A welwyd is y rhod.

Tyn fy serchiadau'n gryno iawn
  Oddi wrth wrthrychau gau
At yr un gwrthrych ag sydd fyth
  Yn ffyddlon yn parhau.

'Does gyflwr tan yr awyr las
  'Rwy' ynddo'n chwennych byw;
Ond fy hyfrydwch fyth gaiff fod
  O fewn cynteddau'm Duw.

Fe ddarfu blas, fe ddarfu chwant
  At holl bwysau'r byd;
Nid oes ond gwagedd heb ddim trai
  Yn rhedeg trwyddo i gyd.