Index: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Gardd yr Iesu

Author: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Contributed by: David Wood

Mi bellach goda' maes
  Ar fore glas y wawr
I weld y blodau hardd
  Sy 'ngardd fy Iesu mawr:
Amrywiol ryw rasusau pur,
A ffrwythau'r paradwysaidd dir.

Edrychwch draw i'r de
  A'r gogledd, y mae rhes
O harddach brennau lliw
  Po fwyaf bo yn nes;
Eu peraidd flas a'u 'roglau llawn
Sy'n dangos nefol, ddwyfol ddwan.

O anghyffelyb flas!
  O amrywioldeb lliw!
Hyfryta' erioed a gaed
  Ar erddi gwlad fy nuw;
Hi, Gilead fwyn a'i haroglau pur
Bereiddiodd awel Canaan dir.

Mae'r pomgranadau pur,
  Mae'r peraroglau rhad
Yn magu hiraeth cry'
  Am hyfryd dy fy Nhad;
O Salem bur!  O seion wiw!
Fy nghartre i a chartre'm Duw.

'Does le i aros dim,
  Mi glywa' rym y ne
'Nawr yn fy ngalw i 'mlaen
  Yn fuan ato Fe;
Ffarwl, ffarwl, ddeniadau'r byd,
Methodd eich tegwch fynd a'm bryd.