Index: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Lleferydd yr Iesu

Author: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Contributed by: David Wood

O llefara, addfwyn Iesu!
  Mae dy eiriau fel y gwin
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
  Ag sydd o anfeidrol rin.
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
  Holl ddeniadau cnawd a byd
Wrth dy lais hyfrytaf, tawel,
  Yn distewi a mynd yn fud.

Nis gall holl hyfrydwch natur
  A'i melystra pennaf 'maes
Fyth gymharu a lleferydd
  Hyfryd pur maddeuol ras.
Gad im glywed sw dy eiriau,
  Awdurdodol eiriau'r nef,
Oddi mewn yn cru heddwch
  Nad oes mo'i gyffelyb ef.

Dwed dy fod yn eiddo imi
  Mewn llythrennau eglur clir;
Tor amheuaeth sych, digysur,
  Tywyll, dyrys cyn bo hir.
'R wy'n hiraethu am gael clywed
  Un o eiriau pur y ne
Nes bo ofon du a thristwch
  Yn tragwyddol golli eu lle.