Index: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Pererin

Author: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Contributed by: David Wood

Pererin wyf mewn anial dir
  Yn crwydro yma a thraw,
Ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
  Fod ty+ fy Nhad gerllaw.

Ac mi debygaf clywa' i sw+n
  Nefolaidd rai o'm blaen
Wedi concwero a mynd trwy
  Dymhestloedd dw+r a thân.

Tyrd, Ysbryd sanctaidd, ledia'r ffordd,
  Bydd imi'n niwl a thân;
Ni cherdda' i'n gywir hanner cam
  Nes elost o fy mlaen.

Mi wyraf weithiau ar y dde,
  Ac ar yr aswy law;
Am hynny arwain gam a cham
  Fi i'r Baradwys draw.

Mae hiraeth arna' i am y wlad
  Lle mae torfeydd di-ri
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes
  Am angau Calfari.