Index: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Sancteiddio'r Nwydau

Author: Owen: William Williams (Pantycelyn) 1717-1791

Contributed by: David Wood

O sancteiddia f' enaid, Arglwydd,
  Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn;
Rho egwyddor bur y nefoedd
  Yn fy ysbryd llesg yn llawn;
    Na fi grwydro
  Draw nac yma o fy lle.

Llwybr cul gwna'n llwybr esmwyth,
  Tyle serth yn wastad iawn,
Cyfyngderau chwith a chroesau
  O ddiddanwch pur yn llawn;
    Edrych trwyddynt
  I fynyddau ty fy Nhad.

Ti dy hunan all fy nghadw
  Rhag im wyro ar y dde,
Rhedeg eilwaith ar yr aswy,
  Methu cadw llwybrau'r ne;
    O tosturia,
  Mewn anialwch 'r wyf yn byw.

Planna'r egwyddorion hynny
  Yn fy natur bob yr un
Ag sydd megis peraroglau
  Yn dy natur Di dy hun;
    Blodau hyfryd
  Fo'n disgleirio daer a nef.

Fel na chaffo'r pechod atgas,
  Mwg na tharth o'r pydew mawr
I fy nallu ar y llwybr
  Na fy nhaflu fyth i lawr,
    Gwna im gerdded
  Union ffordd wrth olau dydd.