Index: Wyn Williams

Y Môr

Author: Wyn Williams

Contributed by: David Wood

Rwy'n hoff o rodio hyd ei lan
   I wrando ar ei gân,
Ac aros am ryw ennyd fer
   I gasglu cregyn mân.

Melysach miwsig im nid oes
   Na miwsig dwfn y lli;
Ei ddyfnder eilw, ddydd ar nos,
   Ar ddyfnder f'enaid i.

A syllaf draw i orwel pell
   Ei gyfrinachau ef,
I'r fan lle gwelir glas y môr
   Yn un â glas y nef.