Index: Wyn Williams

Yr Ynys

Author: Wyn Williams

Contributed by: David Wood

Ynghanol môr fy mywyd i
   Mae Ynys fechan, braf,
Ac yno weithiau gyda'r nos
   Yng nghwch fy Hiraeth af.

Awelon Atgo' feichia'r hwyl
   Nes mynd o'r hwyl ar led:
Dros donnau'r dagrau gyda'r nos
   Y cwch yn rhugl red.

Ni flina'r môr gofleidio hon
   Â'i freichiau gwynion, hir;
'Does ond myfi a thonnau'r môr
   W+yr am y Sanctaidd Dir.