MARGAM A NEDD: William Corntwn oedd y cyntaf o abadau Margam y cadwyd canu iddo, hyd y gwyddys - a bwrw mai dyma'r William Abad y canodd Dafydd Nant a Lewis Glyn Cothi iddo.
Nid rhyfedd felly i Sion ap Hywel Gwyn, car arall eto i'r abad hwn, ganu gan gwyno nad oedd modd cael y croeso arferol yn y fynachlog pan oedd Iorwerth yno, ac y dylid ei anfon ymaith.
Mae Abad Llantarnam yn barod i ymladd mewn brwydr drosto hyd yn oed.
roedd pleidwyr heddwch yn wrecsam wedi trefnu i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos flaenorol yng nghapel y methodistiaid calfinaidd, stryd yr abad.
Yr abad yw'r cyntaf a enwir o blith y rhai y gofynnir ganddynt am y rhodd wrth i'r bardd gyfarwyddo ei negesydd: 'Cyrch dai amlwg ...
Ceir disgrifiad o fywyd y fynachlog yn y cywydd a ganodd ei gar Rhisiart ap Rhys i'r abad Dafydd, a chanmolir yr haelioni ganddo yntau yn ei foliant.
Dywedwyd am Iorwerth Fynglwyd ei fod yn edrych ar Fargam 'fel un o ddinasoedd noddfa'r bardd Cymraeg,' yn enwedig pan oedd yr Abad Dafydd yn bennaeth yno.
Dichon hefyd mai ef oedd y 'William, abad Margam,' y dywed Thomas Wilkins iddo weld peth o hen hanes Morgannwg 'yn warrantedig' o dan ei law' o leiaf, nid oes amau ei ddiddordebau llenyddol.
Ceir hwyl glerwrol yn llawer o ganu'r Nant, ond molir yr abad ganddo'n syber ddigon, gan ddweud ei fod yn 'Cynnal Ehangwen fel Sion Abad Hen' 'wrth ganu gloria'.
Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.
Trachwant am dderbyn rhoddion a'i cadwai yno, medd Sion, ac nid ei hoffter o'r abad.
Caiff croeso'r abad ei ganmol drachefn gan Lewis Glyn Cothi yn y cywydd marwnad a ganodd iddo: bu Margam yn ysbyty a Rhufain i Gymru oll odsano medd y bardd, 'A'n pab fu Wiliam Abad'.
Yr abad oedd yn gofalu neu yn llywodraethu drosto.
Abad Nedd'.
Canodd y Nant i ofyn gŵn gan ryw Wiliam Abad, beth bynnag, a chan fod cyfeiriad at Gorntwn yn un arall o gerddi'r bardd, dyma ateg o blaid cymryd ein bod wedi cysylltu'r gerdd ofyn a'r gwrthrych iawn.
Gwyddom i Seisyll, abad Ystrad Fflur deithio i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod â Baldwin, archesgob Caergaint pan ddaeth hwnnw ar ei daith enwog trwy Gymru i bregethu'r Drydedd Grwsâd.
Dro arall, bu Iorwerth Fynglwyd a Wiliam Egwad yn annog yr Abad Dafydd i gael gwared ar ryw glerwr o'r enw Sion Lleision o'r fynachlog.
Dau arall a ffurfiodd y cwmni hwnnw a aeth o gwmpas i bregethu a chenhadu oedd Gerallt Gymro ac Ioan, abad Hendy-gwyn.
Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.
Ond yn ddiau coron y canu i fynachlog Nedd yw'r awdl a gyfansoddodd Lewys Morgannwg iddi yn ei ieuenctid ar y pedwar mesur ar hugain - yr oedd hyn yn nyddiau Lleision Tomas, yr abad olaf.