MARGAM A NEDD: William Corntwn oedd y cyntaf o abadau Margam y cadwyd canu iddo, hyd y gwyddys - a bwrw mai dyma'r William Abad y canodd Dafydd Nant a Lewis Glyn Cothi iddo.
Nid syn felly eu bod yn ganolfannau nawdd o nod, yn enwedig yn nyddiau abadau llengar.
Y caniad cynharaf lle cyferchir un o abadau mynachlog Nedd sydd yn hysbys yw cywydd Ieuan Tew i ofyn gwartheg dros Owain Dwnn.
Soniwyd eisoes am gyfeiriad Thomas Wilkins at ryw gronicl o dan law un o abadau Margam, a chofier hefyd am yr Annales de Margan.