Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.
Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.