Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aber

aber

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

Os nad wyf yn camgymryd fe fydd dyfodol Gruffudd eto yn y fantol ac fe gaiff ei ergydio fel ceiliog gwynt rhwng y Tywysog a Dafydd yr hanner Norman o Lys Aber." Erbyn hyn 'roedd y sbi%wr yn awyddus i gychwyn i'w daith.

Ond i mi, os oes hafal y goleuni glasfelyn sy'n ffrydio trwy'r Engadin o'r gorllewin ddiwedd prynhawn dros aber a moryd Afon Mawddach y daw hwnnw.

Gellwch gerdded yn hawdd o aber yr afon Ogwr ar hyd y traeth am tua dwy filltir a hanner nes cyrraedd Trwyn y Witsh dan Gastell Dunraven.

Tan yn gymharol ddiweddar yr oedd yr iseldir corsiog hwn yn ymestyn o'r dref i'r môr, yn fath o aber eang i Afon Cefni, aber yr oedd ynddo lanw a thrai, ac a rannai Fôn yn ddwy, Sir Fôn Fawr a Sir Fôn Fach.

Baich gwŷr llys Aber oedd gwarchod gwlad wedi'r cwbl.

Tueddwn ni i feddwl bod y gair aber yn golygu'r fan lle rhed afon allan i'r mor ond gall hefyd olygu - fel yma - y fan lle rhed afon fechan i un fwy.

Yr ochr draw i Gob Malltraeth, mae Afon Cefni yn llifo'n naturiol unwaith eto, ac yn lledu'n aber eang.

Nodir pum peth sy'n llygru bywyd ysbrydol Cymru: y gwersylloedd gwyliau yng Ngheredigion, y cloddio am olew ym môr Iwerddon, y rocedi yn Aber-porth, yr orsaf niwcliar yn Nhrawsfynydd, a'r ymchwil am aur yn Sir Feirionnydd.

Y tri y cytunwyd arnynt oedd John H.Pugh, Aber-soch, J. T. Rogers, Merthyr ac Ebenezer Curig Davies, Bangor.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Y mae perthynas rhwng y gair Cymraeg bala a'r gair Gwyddeleg bel 'bwlch, aber' ac y mae'r gair hwn hefyd i'w weld mewn enwau lleoedd yn Iwerddon a'r Alban - enwau megis Bellaugh, pentref ger Athlone yn Iwerddon a Bellhaven yn

Rwy'n rhagweld y datrysir pos aber y Niger yn fuan.

Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.

Mi aeth trigolion Glan Aber, Porth Tywyn, at yr heddlu i gwyno am y bachgen, sy'n cael ei alw'n lleol yn Dick Turpin.

Mae cais cynllunio Cyngor Sir Clwyd i godi ffordd osgoi i'r Fflint, ar draws y gors yn aber yr afon Dyfrdwy wedi ei alw i mewn am benderfyniad personol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyflwynwyd nifer o argymhellion ynglŷn â thraenio'r aber eang ac adennill tir gan dirfeddianwyr a fyddai'n elwa o wneud hynny.

Mae'r clogwyni yn mynd yn uwch wrth i chi gerdded o aber yr Ogwr, ac yn dechrau ger y clogwyni isel mae'r creigiau Triasig yn gorwedd ar y Garreg Galch Carbonifferaidd.

Mae llofrudd lluosg - serial killer - yn stelcian fin nos yn nhre glan môr Aber, yn lladd merched ifainc, ac yn miwtileiddio'u cyrff.

Mae ei phrif sianel yn glynu'n glos wrth lan orllewinol yr aber, ac ar ôl iddi fynd heibio i Ddinas Llwyd mae'n ymdoddi i'r môr ym Mae Malltraeth

'Hy, dwi'n ei gofio fo'n dwad yma i chwilota am waith ar ôl crafu drwy'i din i ennill gradd yn Aber.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.