Darparodd Duw, yn ei oruchwyliaeth drugarog, ffyrdd i ddileu'r halogiad hwn drwy aberthau penodedig, fel y'u nodwyd o fewn i'r ddeddf Iddewig.
Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig ac edifeiriol ni ddirmygi, O Dduw.
Nid aberthau yn yr ystyr offeiriadol yw'r ateb yn ôl y dehongliad hwn, ond newid yr ewyllys.
Ceir darnau yn yr Ysgrythur lle y dywedir nad yw Duw yn dymuno aberthau ac offrymau; yn wir ei fod wedi hen syrffedu arnynt.