Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

absennol

absennol

Yr hyn nad yw byth yn absennol yw ymwybyddiaeth o arwahanrwydd cenedlaethol Cymdeithas, cymundod ddynol, yw cenedl.

Os byddwch yn absennol rhwng un a saith niwrnod calendr byddwch yn cwblhau tystysgrif eich hunan ("Self Certificate%) i nodi'r rhesymau am eich absenoldeb.

Y mae'n wir nad oedd y teulu'n absennol o'r gymdeithas, ond yr oedd yn israel ai ffyniant bywyd ar barodrwydd dynion i uno â'i gilydd; dyna paham y rhoddid lle mor bwysig i deuluoedd a pherthynas gwaed.

Lle bo ansawdd y dysgu'n anfoddhaol, bydd rhai neu'r cyfan o'r nodweddion hyn yn absennol.

Wedyn cychwynnodd ar gwrs addysg - a olygai, wrth gwrs, ei fod yn absennol o'i blwyfi.

Lle bo ansawdd yr addysgu'n anfoddhaol, bydd rhai neu'r cyfan o'r nodweddion hyn yn absennol.

Mae'n rhai i bob damwain sy'n arwain at fod yn absennol o'r gwaith am dri neu fwy o ddyddiau gael ei chofnodi ar y ffurflen benodedig.

Bydd David Beckham a Steven Gerrard yn absennol gydag anafiadau.

Os ydych yn absennol heb reswm digonol fe fyddwch yn methu'r cwrs.

Os byddwch yn absennol am fwy na saith niwrnod calendr byddwch yn cyflwyno tystysgrif meddygol a bydd gofyn cael tystysgrifau meddygol pellach nes y bydd tystysgrif terfynol yn caniatau i chi ddychwelyd i'ch dyletswyddau arferol.

Yn gyntaf,yr oedd esgobaethau Cymru wedi dygymod ers cenedlaethau ag esgobion absennol.

Felly, i'r rhai ohonoch oedd yn absennol o'r oedfa, a hefyd yn wir i atgoffa'r rhai oedd yno, dyma adgynhyrchu'r hyn a ddywedwyd ganddi: "Ys gwn i faint ohonoch chi yn y gynulleidfa a gafodd eich derbyn oherwydd fod eich rhieni wedi eich gorfodi i wneud hynny, neu efallai nad oeddech wedi meddwl rhyw lawer am y peth, ac mai dilyn traddodiad oedd yn bwysig.

Bydden nhw'n absennol o'u gwaith arferol am flwyddyn neu ddwy, a llenwid y bwlch gan y gweithwyr eraill a fyddai'n gweithio oriau ychwanegol.

Os byddwch yn gwybod ymlaen llaw eich bod am fod yn absennol (ee i fynd am gyfweliad) yna fe ddylech roi gwybod i'r tiwtor cyn mynd.