Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

abwyd

abwyd

Arferai 'Nhad ac amryw eraill osod cefnen - lein hir a bachau arni- i bysgota a defnyddient lymriaid yn abwyd.Dalient lawer o bysgod:lledod, draenogiaid a chathod mor yn bennaf.

Ni allwn ond gobeithio na fydd yr hen Nessie yn tybio mai abwyd sydd yn y dwr ac yn neidio amdano.

Y peth trist yw fod cynifer o Gymry Cymraeg yn llyncu'r abwyd.

Abwyd i'r fwyalchen a'i thebyg yw cnwd ffrwyth y ddraenen wen er enghraifft, ond nid felly yr hedyn yn ei ganol.

Digwyddodd hyn hanner dwsin o weithiau, am nad oedd Jim wedi sylweddoli mai rowlio'r abwyd dros wely'r afon wnâi arbenigwyr Llangollen Fach, ond yr oedd ei fwydyn ef wrth angor blwm ym Mhwll y Bont.

Roedd yna fachyn i ddal abwyd er mwyn denu'r gath, ac wrth dynnu yn hwnnw i gael y pysgodyn yn rhydd, roedd gwifren yn gollwng drws i lawr am geg y cawell.

Arhosodd am eiliad i'r pysgodyn gael cyfle i lyncu'r abwyd, yna dechreuodd droi ei sbinar.

Rydym fel tîm yn mwynhau cystadlu'n fawr, a gyda gwobrau o filoedd o ddoleri roedd yn dipyn o abwyd.

'Roedd hi wedi llyncu'r abwyd.

Eithr ni chymerodd neb yr abwyd.

Ir lleill sydd ar ôl mae'r abwyd yn awr yn amlwg.

Rwyf wedi cael diwrnodau o'r fath a haul hyfryd yn cynhesu'r gaeaf, ac yr wyf wedi cael dyddiau gwych wedi i'r bechgyn fod allan yn torri tyllau yn y rhew er mwyn gallu rhoi'r abwyd allan!

Wedi gwneud yn siw^r fod y pwysau ar y lein yn ddigon trwm i suddo'r abwyd rhoddodd Alun ei lein yn dw^r a gadael i'w wialen symud gyda'r lli.