Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

academaidd

academaidd

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Yn hysbyseb cyntaf y coleg, gosodwyd y Gymraeg ar ben rhestr y pynciau a ddysgid yno ac yr oedd Athro Cymraeg ymhlith y tri aelod cychwynnol o'r staff academaidd.

Er hwylustod fe'u galwaf yn ochr academaidd a'r ochr ymarferol.

Ymhlith y penaethiaid adrannau Cymraeg Uwchradd a atebodd, un yn unig a gynigiodd sylw anffafriol, sef ...agweddau yn rhy academaidd...

Cafodd yrfa academaidd ddisglair yn y Clasuron yn Rhydychen, ac fe'i hystyrid yn un o bobl ddysgedicaf ei ddydd.

Er enghraifft, wrth chwilio yn ddiweddar am ddeunydd ar Owain Glyndwr, roedd llawer o wybodaeth ar gael, ond roedd y cynnwys yn rhy academaidd a chymhleth i fod o ddefnydd ac o ddiddordeb i blant ygsol gynradd.

Yn academaidd, roedd hi'n ddadl rhwng Safon Byw a Chadernid Economaidd, ond yn y bon dadl ydoedd rhwng wynwyn a'r geiniog felen.

Roedd yn Gymro twymgalon ac er iddo dreulio pum mlynedd yn Ffrainc yn darlithio ac yn ehangu ei orwelion academaidd treuliodd y gweddill o'i oes yn y maes addysg yng Nghymru.

A yw'r ysgol yn hybu addysgu ei disgyblion i gyd ac yn darparu awyrgylch dysgu sy'n cefnogi anghenion yr unigolyn yn academaidd ac yn ddatblygiadol?

'Roedd Stacey'n llwyddo'n academaidd yn yr ysgol a hynny, yn fwy na dim, fagodd ddiddordeb Hywel Llewelyn ynddi.

Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd â'r Fyddin.

Rhyw fath o flwyddyn brawf oedd hon ar ei allu academaidd a'i addaster i'r weinidogaeth.

Yn wir, rhaid adfer yr agwedd ymofyngar yn gyson os ydym am feithrin gonestrwydd academaidd.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Yr ymchwil hwn yn ei agweddau academaidd ac ymarferol fydd sylfaen y cwrs diploma a gynigir yma.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Ar un adeg roedd hi'n anodd iawn i lenor o Gymru yn sgrifennu yn Saesneg gael hynafiaid fel hyn - yn sicr, nid hynafiaid mo Herbert a Vaughan, a dim ond soffistigeiddrwydd academaidd yw ceisio'u galw yn Eingl-Gymry.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Yn ystod ei yrfa academaidd astudiodd lenyddiaeth yr holl gyfnodau a chyhoeddi cryn dipyn ar bob un.

Beth bynnag am safonau academaidd y sefydliad bryd hynny, roedd yn fagwrfa i lawer to o gymeriadau gwreiddiol cefn gwlad.

Bu talentau academaidd Edwin yn foddion i hwyluso ei hynt addysgol.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Felly nid yw'n syndod o gwbl bod prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â safonau academaidd yn gyndyn o roi o'u hamser a'u harian i archaeoleg môr neu i gael eu cysylltu â hi.

Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.

Cymorth staff academaidd Gorbenion ac offer

A be sy gen ti i ddeud wrth y rheini a thitha wedi treulio oes yn y byd academaidd ac yn y Gwasanaeth Sifil?

Fel rhan o'r arolwg, lluniwyd holiadur cwbl ragfarnllyd gan wahodd ymatebwyr i nodi ai cau'r mwyafrif o ysgolion bach y sir neu dim ond rhai ohonynt oedd y llwybr gorau i ddatrys materion fel codi safonau academaidd, hwyluso gwaith staff etc.

Buddugoliaeth fawr ac Eisteddfod gofiadwy i aelod arall o'r to ifanc o'r beirdd academaidd a rhamantaidd, pobl fel T. Gwynn Jones, R. Silyn Roberts, W. J. Gruffydd ac R. Williams Parry.

Mr Yang yn gofyn imi edrych dros erthygl a sgrifennodd ar gyfer cylchgrawn academaidd, Teaching English in China.

Blackwell's Bookshops, yn Rhydychen: Un o'r cyflenwyr llyfrau academaidd ac ysgolheigaidd mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.

Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Chethams, y Conservatorio di Francesco Morlacchi, Perugia a Phrifysgol Caergrawnt, lle derbyniodd ysgoloriaethau corawl ac academaidd ill dau (yn ogystal â bod yn lesyn pêl-droed), cyn cychwyn ar Ysgoloriaeth Arwain yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, o dan Norman del Mar.

Pe bai wedi cael mynd ymlaen i'r Ysgol Sir gallasai gael gyrfa academaidd, ond nid oedd amgylchiadau teuluol yn caniata/ u hynny, a daeth allan o'r ysgol yn dair ar ddeg mlwydd oed i weithio yn y gwaith tun.

Y ddoethineb gonfensiynol yw bod ysgolion pentrefol yn unedau cartrefol ac agos ond na allan nhw gynnig yr un safon o addysg h.y. eu bod yn dda'n gymdeithasol ond nid cystal yn academaidd.

Mae angen cymryd camau breision ymlaen yn awr o ran hybu cydweithrediad rhwng cylchoedd o ysgolion gwledig cyfagos i'w datblygu fel unedau academaidd cryf.

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach.

Gwelir ei eisiau yn enbyd ym Mangor oblegid yr oedd yn rhan mor amlwg a hyglyw o fywyd y Coleg, yn academaidd ac yn gymdeithasol.