Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.
Gosodai'r academegwyr y gwirioneddau yr oeddynt yn dadlau amdanynt y tu allan i brofiad y galon, ym maes syniadau haniaethol, gan brofi i Hughes eu bod ar gyfeiliorn.