Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

achlysurol

achlysurol

* Helpu unigolion i ddatblygu a chynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau cymdeithasol a pherthnasau personol - o gysylltiadau a chyfeillgarwch anffurfiol ac achlysurol i berthnasau tymor-hir.

Gallai oedolyn mewn dosbarth nos achlysurol fod ag angen cyfnod hwy na hynny hyd yn oed i gyflawni'r gwaith.

Er mai o fis Mawrth ymlaen y genir yr epil, fe ellir cael lefren ifanc yn achlysurol yn Awst a Medi.

Yn achlysurol, bydd wardeiniaid y parciau cenedlaethol yn rhai o wledydd Affrica yn cael eu gorfodi i ladd cannoedd o eliffantod er mwyn rheoli'r twf, a sicrhau bod digon o fwyd i gynnal y rheiny sy'n weddill.

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Ni ellir gweld dim ond ewyn gwyn ple mae'r pysgod yn codi'n achlysurol.

Erbyn heddiw, a'r pwyslais o ran cynhyrchu wedi symud i'r sector annibynnol, does dim strwythur o'r fath yn bod mewn maes lle mae llafur achlysurol yn rhan annatod o natur y brodwaith.

Cyfres achlysurol newydd sy'n croesholi rhai o wynebau cyfarwydd y Gymdeithas. Yn gyntaf, rhowch groeso i Rocet, ugeinfed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

vii) sicrhau bod pob aelod o staff yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân, yn gwybod ble mae cyfarpar diffodd tân wedi'i leoli a sut i'w ddefnyddio os bydd angen; cymryd cyngor yr Awdurdod Tân o bryd i'w gilydd; profi'r trefniadau Dril Tân yn achlysurol trwy gynnal ymarferion (i'w trefnu gan y Cyd-Gysylltydd Iechyd a Diogelwch), a phob ymarfer i'w gofnodi mewn Atodiad i'r Polisi Diogelwch hwn;

Dim ond yn achlysurol iawn y byddaf i'n gwylio'r Stryd ac anaml y byddaf yn gwylio unrhyw sebon arall.

Mae'n dda cael casgliad eto o erthyglau achlysurol yr Athro Glanmor Williams.

Fe lyncai fywyd mewn rhyw fath o fodlonrwydd tawedog, a gwario golud ei eiriau ar fan bethau achlysurol nas canfyddir yn gyfferedin.

Cofiaf am rai o'r darlithoedd gwych a gaem yn achlysurol, fel darlith AOH Jarman ar Iwerddon, a darlith H.Francis Jones ar W^yr Llangwm a'r Rhyfel Degwm.

Nid oedd gan y Saeson, fel yr oedd yng Nghymru, draddodiad cryf o ganu achlysurol a chymdeithasol, a byddai beirdd Saesneg yn troi at y clasuron am batrymau i'w dilyn.

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Mae'n rhyfedd meddwl hyn, ond petawn i wedi penderfynu mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n debyg mai'r peth agosaf i ysbryd y buaswn i wedi'i weld fuasai'r cipolwg achlysurol yma ar Miss Jones Bach ar Stryd Fawr y Blaenau am hanner nos.

Trwy gael athrawon yn arsylwi yng ngwersi'r naill a'r llall neu'n cyd-ddysgu'n achlysurol gellid ymestyn yr ymchwil a'i greu'n brosiect adrannol.

Glenda Jackson sy'n cael sylw Aled Islwyn y mis hwn yn y gyfres achlysurol hon sy'n bwrw golwg ar rai o'r merched hynny sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant y sinema...

Emyn achlysurol ydyw, un o'r lliaws a gyfansoddwyd gan Elfed i gyflawni dibenion ymarferol ym mywydau eglwysi ac unigolion.

Yn achlysurol yn arbennig yn achos y cynlluniau cynharaf, byddai grwpiau bychain o athrawon o'r un fryd yn dod at ei gilydd, i weithio'n annibynnol ar eu cynlluniau eu hunain Dyna'n sicr oedd hanes grwp Caer Efrog - gydweithio gan nifer o athrawon a oedd yn adnabod ei gilydd yn dda.

Roedden nhw'n fwy tebygol o fod wedi dioddef camdrin parhaus drwy'u plentyndod tra ond yn achlysurol yr oedd bechgyn yn cael eu camdrin.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.

Er mai browngoch yw lliw ysgyfarnogod gan amlaf, y mae rhai gwynion i'w cael yn achlysurol, ond eithriadau yw'r rheini.

Yn sefyll eu prawf ym mis Tachwedd eleni bydd 45 o Lydawiaid – wedi eu cyhuddo o 'gynnig lloches achlysurol, ymwneud â throseddwyr ac â mudiad terfysgol'. Y mudiad terfysgol dan sylw yw ETA.

Yn achlysurol byddai angen symud darn mawr o graig neu glogvyn ohenvydd ei fod yn rhy beryglus i'r dynion weithio odano, neu am ei fod yn rhwystr i ddatblygiad y ponciau.

Ond yn y cerddi gorau nid y trosiadau unigol achlysurol hyn sy'n arwyddocaol - er nad anwybyddir y rhain, wrth gwrs - ond bod y cerddi yn eu cyfanrwydd yn drosiadol.

Bryd hynny 'roeddem yn adnabod pob cwch yn y bae ynhgyd a'r llongau a fyddai'n galw'n achlysurol, megis y Charles McIver, llong berthynol i Trinity House a ddeuai i archwilio goleudy St.

Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.