Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

achosi

achosi

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Er hynny, daeth cri am help oddi wrth Emma yng nghanol 1999 gan ei bod wedi ei harestio gan yr heddlu yn Amsterdam ar amheuaeth o achosi marwolaeth ei ffrind, Liz.

Pa un âi'r driniaeth oedd wedi ei achosi neu'r ffaith fod cancr y prostad arno, ni wn.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

'Mi all gorweithio achosi hunllefau, Megan.

Ar yr wyneb stori yw am ddieithryn sy'n dod i godi ei babell mewn pentref bychan a'r holl anghydfod mae hynny'n ei achosi ymhlith y trigolion.

Dywed cynllunydd y fath wiriondeb nad yw hyn yn achosi unrhyw niwed na phoen i'r pryfetyn.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Yn anffodus nid oedd yr operasiwn honno'n gwbl lwyddiannus chwaith ac 'roedd y dwythell yn dal i gau o bryd i'w gilydd, gan achosi cholangitis rhwystrol.

Yn ôl rhai adroddiadau, gall OP achosi niwed i'r ymennydd, afiechydon i'r croen a marwolaethau cynnar.

Ilicin yw'r gwenwyn sydd yn amddiffyn hâd y goeden gelyn, cemegyn sydd yn gallu achosi llesgedd, cyfog a dolur rhydd yn y sawl sy'n mentro ei fwyta.

Rhieni yn eu tro yn darfod ac yn achosi diweithdra uchel iawn ei gyfartaledd.

Yn eu golwg hwy 'roedd y Diwygiad yn gyfrifol am achosi rhwyg difrifol yn yr Eglwys Gatholig.

Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i'r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Oxfam a'r Cenhedloedd Unedig, dywedir mai diffyg cynllunio, nid diffyg bwyd, sy'n achosi newyn.

Siwrnai fythgofiadwy, ond fe fynnodd Vesuvius ddial arnaf i fesur, nid yn unig drwy ddifetha f'esgidiau'n llwyr, ond hefyd drwy achosi cur yn y pen arteithiol i mi~

A rhywun arall hefyd! Stuart a Kelly o'r Stereophonics syn achosi swn sgrechen ymhlith y merched ifanc tu ôl i'r ffens.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.

Byddai'r hen ffermwyr yn malu'r garreg-las ac yna yn ei chymysgu â sebon a'i rhoddi ar y crwn (ringworm) sydd yn cael ei achosi gan ffwng.

yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.

Hynny, wrth gwrs, sydd wedi achosi'r tyrfe mewn rhai mannau, y gwlithlaw di-baid a'r glaw trwm iawn ar adegau.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adran Afonydd yn y Tirwedd, awgrymwch sut y gallai y pethau hyn fod wedi achosi llifogydd.

Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.

Clywed sgwrs Pwal y porthmon a'i thad-cu Thomas Pritchard, oedd wedi achosi ei gofid.

Am ryw reswm, mae ei thad yn gadael y rhan helaethaf o'i eiddo iddi hi a hynny yn codi gwrychyn ei mam, sydd yn achosi i CJ i symud i fyw at ei sboner.

Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.

Gan fod amaeth Gymreig mor ddibynnol ar y gyfundrefn gynhaliol (y grantiau) - ofnir i'r newidiadau yn y PAC achosi yn y man gwymp pellach yn incwm y ffermwyr ac yn eu nifer.

Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus.

Fe fyddai cwympiad y fertebra yn achosi poen yn y ddwy ochr ar hyd nerfau y lefel honno, ac fe allai pothelli ymddangos.

Aeth y cyfarfod yn un hwyr iawn, gan achosi rhyfel cartref yn y car yn ddiweddarach.

Gwingodd, heb fedru deall sut y gallai rhywun hollol ddieithr achosi cymaint o boen iddi.

Firws arbennig yw'r drwgweithredwr, un tebyg i'r firws sy'n achosi Brech yr Iâr ...

Yn bendant mae sail i'r peth, pa un ai fydd gêm a buddugoliaeth fel hon yn achosi iddyn nhw newid eu meddyliau ac aros 'mlaen am un tymor arall gawn ni weld.

Roedd cyffro gwyllt yn yr aer a hwnnw wedi'i achosi gan y llwch a chwyrli%ai i fyny oherwydd y gwres, dwi'n credu.

Er nad yw canser y pancreas bron byth yn digwydd mewn pobl o dan ddeugain oed, ac er ei fod yn amlygu'i hun trwy achosi clwyf melyn yn hytrach na phoen, gwnaeth y llawfeddyg ddiagnosis o ganser y pancreas.

Er hynny y mae addysg datblygu yn achosi problemau arbennig.

Er enghraifft, mae prinder athrawon i addysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn achosi cryn bryder ynglŷn â diogelu lle'r Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol.

I grynhoi, felly, gwelir fod y newidiadau sy'n digwydd o fewn yr economi yn effeithio ar yr uwch-ffurfiant, gan greu deinamig ac achosi newidiadau i'r ffurfiant cymdeithasol.

Diolch i'r miri efo'r hogan wirion yna gollodd ei chot law, roedden nhw chwarter awr yn hwyr yn cychwyn o Bwllheli ac roedd y ddamwain yna ger Llanllyfni wedi achosi iddo golli mwy o amser.

Pryfyn bach nad oes modd ei weld ond a chwydd wydr sydd yn achosi'r clafr.

Y mae hwn yn gyflwr difrifol a hynod o annymunol sy'n achosi gwres uchel iawn a gwendid llethol ynghyd ag iselder ysbryd.

Cafwyd Stephens yn euog o achosi niwed corfforol i Bebb, ar ôl iddo daflu dwrn mewn gêm rhwng Cross Keys a Phenybont.

Ni pharodd y briodas yn hir gan i gamddealltwriaeth rhwng y ddau achosi damwain a laddodd eu cymydog, Gina Phillips.

Ychydig o flynyddoedd ynghynt roedd newyn dieflig wedi achosi marwolaeth miloedd o Wyddelod, a'r tlodi a'r newyn yma a yrrodd eu cydwladwyr - merched, plant a dynion o bob oedran ar draws moroedd geirwon i geisio byd gwell.

Bu+m wedyn yn astudio pob symudiad ym mecanyddiaeth ceg a llwnc y ddwy; roeddwn yn llyncu bob tro y llyncent hwy a hynny'n achosi rhyw arwyddion ffug i'm hymennydd!

Mae sawl ffactor yn achosi hyn megis natur ieithyddol y gymuned, polisi iaith yr AALl a hyfedredd yr athrawon yn yr iaith.

Roedd rhywbeth yn achosi penbleth i Gethin hefyd, ond ni chafodd amser i benderfynu beth, oblegid roedd syndod mud y ddau ffrind yn achosi i'w gosgordd golli eu teimladau o barchedig ofn tuag at y brodorion cyntefig.

Yn ôl adroddiad o America, mae un math o ddeuocsin yn achosi cancr.

Bu bron i Jason achosi marwolaeth Graham drwy gamgymeriad a wnaeth ar safle adeiladu'n ddiweddar.

Cyfaddefwyd hefyd y gallai'r clafr achosi problemau masnachol difrifol i ffermwyr ac i'r diwydiant lledr.

Roedd dod ar draws chwilen a fedrai siarad iaith wahanol i iaith gliclyd y chwilod, er mor ddigri ei fersiwn ohoni, yn achosi i'r gelen deimlo rywfaint yn nes ati.

Dylai hyn achosi ychydig o bryder, gan mai ychydig o bobl fyddai'n gallu delio gyda merch fel Sheryl yn eu bywydau bob dydd.

* Gall gwybodaeth ysgrifenedig achosi rhwystr os defnyddir iaith gymhleth neu jargon.

Yn yr un modd mae'r prif drac yn achosi penbleth yn ogystal, gan fod Deud Dim yn agoriad annisgwyl i'r albym.

Carcharu'r cyn-ringyll byddin, John Jenkins, am 10 mlynedd am achosi ffrwydradau drwy Gymru yn y 60au.

Mae merched yn gallu achosi anlwc i ddynion sy'n chwarae cardiau.

Mae hwnnw wedi mynd â'i bryd ac yn achosi iddi gael hunllefau.'

Gall unrhyw fath o gancr fywiogi'r firws ac achosi'r dolur ond wrth gwrs rhaid i'r firws fod yn bresennol cyn y gall hynny ddigwydd.

Fe all y sefyllfa ieithyddol yn yr ysgolion hyn fod yn ddyrys gan achosi nifer o anawsterau.

Trowch i'r chwith i gylchynnu'r llyn, mae'r llwybr yn hawdd i'w ddilyn, yn wir, cymaint fu'n heidio yma'n ddiweddar bu'n rhaid ei atgyfnerthu rhag achosi erydiad pellach.

Weithiau gall dognau helaethach achosi iselder ysbryd, llesgedd a pharanoia mewn rhai unigolion rhagdueddol.

Dadleuir mai'r hwyr-ddyfodiaid, plant di- Gymraeg sy'n cyrraedd yr ysgolion yn saith oed ac yn hŷn, yw'r garfan sy'n achosi'r trafferthion.

Roedd hynny'n amlwg, hyd yn oed yn y ffordd filain y byddai hi'n ceisio ein brifo ni, yn ceisio achosi rhyw ymateb naturiol oddi wrthym ni i'r sefyllfa.

Gall bensednne a chyffuriau tebyg achosi cyflwr o gynnwrf meddwl ac aflonyddwch corfforol ynghyd