Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

achosodd

achosodd

Achosodd y digwyddiad hwn lawer o dristwch yn Marian Glas, Môn, ac ym Mhwllheli, lle'r oedd y mêt a'i wraig yn byw.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Achosodd yr hyn a welwyd fel brad ar ran yr SPD loes mwy personol i Schneider hefyd.

Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd.

Achosodd y gronynnau o lwch i'r machlud ledled y byd fod yn annaturiol o goch am gyfnod maith.

Anodd dirnad y siom a achosodd y llythyr i fachgen ifanc, gorfrwdfrydig a llawn syniadau ynglŷn â gweddnewid ein diwylliant.

Achosodd hyn gryn stŵr trwy'r wlad ac aeth pawb ati i gynhyrchu wynwyn trymach a chaletach a mwy eu maint nag erioed.

Wrth gwrs, achosodd hyn flinder a phenbleth i'r Pwyllgor Addysg, ac 'r oedd yn amlwg ei fod yn of ni i'r un math o frwydr ddechrau eto.

Yn 1996 cyrhaeddodd Nia, merch Llew, ac achosodd Nia helyntion di-ri iddo wrth iddi yn gynta redeg i ffwrdd o gartre ac yna cael ei hun yn feichiog gyda phlentyn Hywel Llewelyn.

Joseph Harris, a Mr John Evans, wedi troi yn eglwyswyr, nid yw ddim i ni yn mhellach, nag yr achosodd i ni y drafferth o sefydlu y Cyhoeddiad hwn, ond yr ydym yn ddisgwyl cael difyrwch digonol i ad-dalu hyny o draul".

Fe fu/ yna un cyfarfyddiad rhwng y ddau dim fodd bynnag a achosodd dipyn o gyffro, er mai nid pêl-droed oedd yn gyfrifol am hynny.

Fe'i gwelwyd yn Ethiopia yn y chweched ganrif ac fe achosodd filoedd o farwolaethau yn yr Amerig yn y bymthegfed ganrif.

Achosodd Graham rwyg enfawr rhwng Jason a Rhian am gyfnod ond bellach mae'r ddau yn ôl gyda'i gilydd.

Achosodd prinder cyfleoedd gwaith i frodorion Cymraeg eu hiaith symud i ffwrdd, a phrisiau tai cymharol isel ac atyniad y bywyd gwledig i fewnfudwyr di-Gymraeg symud i mewn.

Pan ofynnodd Powell beth achosodd i'r awyren orfod glanio, daeth yr ateb sotto voce gan Gareth, "Sgido yn yr awyr." a'r prifathro'n methu a deall pam fod gweddill y dosbarth yn eu dyblau.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Gyda help Derek achosodd Mrs Mac ddamwain ddifrifol a chafodd ei charcharu.

Bendithiwyd y penwythnos, drwy lwc, â thywydd braf ac achosodd hynny i deuluoedd a thrigolion yr ardal heidio i'r pentref.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.

Ond tua diwedd yr ail ddegawd bu ffrwgwd rhyngddo a Iarll Ashburnham a achosodd iddo golli'r cwbl a feddai.