Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

achwyn

achwyn

Wn i ddim pwy a ddechreuodd achwyn yn gyntaf am 'y beirdd modern hyn.' Efallai y gellir ei ddyddio i'r ymateb chwyrn i rai o gerddi cynnar Bobi Jones, dywedwch, yn niwedd y pumdegau a dechrau'r degawd nesaf.

Yn hytrach na rhoi trefn ar bethau ar y cae mae gormod o lawer o chwaraewyr yn achwyn yn rhy hwyr.

A waeth i nhad heb ag achwyn oblegid llwyn y wermod lwyd chwwaith.

Roedd Metron wedi achwyn ar ôl dod o hyd i Hilary yn dodjio gwers biano yn y lle chwech.

mae gan abertawe bob hawl i achwyn ar eu cynrychiolaeth yn y tîm dim ond tony clement yn gefnwr a garin jenkins yn fachwr tra bo wyth gan lanelli yn y tîm.

Yr oedd yn gas ganddo blant, a byddai yn dod i achwyn wrth yr ysgolfeistr yn aml am naill beth a'r llall.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

Byddai Dad yn achwyn yn aml am y sŵn a wnâi o a Mali ei chwaer, a go brin y caniatâi ychwanegu ato!

Canlyniad yr achwyn oedd fod y brifathrawes wedi rhwystro Hilary rhag mynd ar y trip blynyddol i Llandudno.

Roedd 'i fam 'di meddwl ein bod ni'n 'i bryfocio fe, druan, a mynd i achwyn at y goruchwyliwr.

Ymddengys fod Wil y gwas bach wedi hen flino ar ddilyn yr injan lladd gwair o gwmpas y cae ar ddiwrnod poeth o haf ac iddo achwyn ar ei fyd.

Cylchgrawn Eglwys Seilo Caernarfon Er i ni gael blwyddyn ddigon diflas ar y cyfan o ran tywydd, ac er y bu achwyn yma ac acw parthed y sefyllfa wleidyddol ac economaidd fregys o fewn ein gwlad ac yn y byd tu allan, nid dyna'r stori i gyd.

'Mi gewch chi'ch crogi'n siwr i chi.' Addawodd yr hen ŵr y câi hi'r fuwch ddu a'r setl, cist a chadwen ond iddi beidio ag achwyn arno.

Ond roedd 'na achwyn mawr y tro hwn nad oedd bwyd digonol i'w gael ar ol yr holl ymdrech.

Siapa hi, neu fydda i'n achwyn wrth dy fam!' 'Sai'n teimlo'n dda ...