Mae hyn yn ein harwain oddi wrth gyfatebiaethau achyddol arwynebol at wedd fwy thematig ar y nofel ei hun.
Mae'r manylion achyddol a geir yma yn newydd, ac yn cadarnhau'r darlun o Theophilus fel gūr bonheddig, ac yn ei osod mewn cefndir bonheddig, ar hyd glannau Teifi, a oedd o hyd yn Gymraeg ei iaith a'i ddiwylliant ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.