Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

actio

actio

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Y mae actio David Lyn ar gyweirnod uwch nag un John Ogwen ond yna mae Williams yn ddirgelwch o gymeriad ac o bosibl ar y ffin rhwng gorffwylledd a normalrwydd.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Bydded iddynt ddysgu'r wers nad oes pwrpas cael actio da, na chynhyrchu penigamp, os nad yw'r hyn sy'n sail i berformiad - sgript - yn un o safon.

Amrywia'r actio rhwng yr ofnadwy a'r dychrynllyd gyda'r actorion yn cyhoeddi eu llinellau yn hytrach na'u siarad.

R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.

Roeddem ni'n hoffi'r rhain oherwydd, heb lyfr yn ei llaw, roedd hi'n rhydd i actio'r stori, actio efo'i llygaid a'i dwylo.

Effallai y caiff ran fel Robin Hood rhyw dro, a chael cyfuno ei hoffter o actio a dringo coed!

Mae stori am un o'r pethau ifainc hyn yn actio yn yr un cynhyrchiad a Charles Williams nad oedd yn enwog am oddef ymhonwyr yn dawel ac a oedd wrth ei fodd yn rhoi sbocsen yn eu holwyn.

Roedd hynny a'r actio celfydd yn rhoi pleser a mwynhâd.

Mae Gruff yn brysur iawn ar hyn o bryd gan ei fod yn troi ei law at actio ac yn ffilmio ar gyfer ffilm fydd yn cael ei dangos ddiwedd y flwyddyn.

Er iddi arddel rhyw syniad o fynd i nyrsio pan yn eneth ifanc, roedd y profiad gyda'r cwmni yn ddigon i ddarbwyllo Judith mai at fyd actio y buasai ei llwybr gyrfaol yn arwain.

Digon yw dweud i Theatr Bara Caws gael gafael ar ddrama arbennig gan Twm Miall, ac i'r cynhyrchiad a'r actio fod yn gyfwerth â hi.

Anodd dweud erbyn hyn beth oedd bwriad Iorwerth Glan Aled wrth ei sgrifennu, ac er ei bod yn ddigon actadwy, anodd dweud faint o actio a fu arni, ond dyma'r gwaith, yn fwy na thebyg, a sbardunodd Robert Jones Derfel i sgrifennu ei ddychan ar ffurf drama â'r teitl Brad y Llyfrau Gleision.

Fe ddywedson nhw hefyd na fyddai neb yn fodlon gofyn i'w chwaer actio rhan y butain - yn un o'r jôcs theatrig gorau, fe wnaeth Kitchener Davies hynny, gan gymryd rhan y pwdryn ei hun a rhoi rhan ei wraig i neb llai na Kate Roberts.

Yn wir mae eisoes yn bell ar hyd y ffordd fel fy mod yn amau weithiau faint o actio sydd raid iddo ei wneud, onibai am gofio'r sgript.

Roedd yr un ta/ n yno, oedd, a'r un actio penigamp.

"Maen nhw wedi bod yn gefnogol ac - mae o'n swnio'n cliched, dwi'n gwybod, ond - maen nhw wedi agor eu drysau i ni." Chwe awr o drafod syniadau, o actio byrfyfyr, o benderfynu ac o baratoi y mae Carys yn ei gael gyda phob grwp cyn recordio'r achos a hynny'n ddi- sgript, o flaen y camerau.

Menna fu'n actio ei rhan drosti, i lanw'r bwlch.

Yn wir, yr wyf yn amau y medrech gael unrhyw un i actio mor naturiol a doniol a'r wraig honno a gwynai fod ei gwrcath clwyfus yn anghofio ei fod yn hen, ac nad oedd mwyach yn abl i gwffio am y fraint o gael bod yn dad!

Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.

Ond cyn mentro i'r byd actio roedd yn un o sêr mwya' disglair y byd adloniant ysgafn yng Ngorllewin Morgannwg ac yn arfer canu gyda neb llai na Bonnie Tyler a aeth ymlaen i gael hits enfawr gyda 'Lost in France' a 'Total Eclipse of The Heart'.

Yn lle hynny, fe fydd drama gerdd gyda phlant uwchradd a chynradd yn actio stori am blant fel nhw eu hunain.

Ond nid yw'r ffaith ei fod yn actio rhan yr unben beirniadol yn gwneud ei ddehongliadau yn rhai cywir o bell ffordd.

Dydw i ddim yn ymwybodol fod yna ffraeo o'r fath yn y byd actio Cymraeg.

Dyna un nad oedd raid iddi actio'n ei chwmni, un a oedd yn ei hadnabod fel cefn ei llaw.

Miwsig sy'n mynd â'i fryd yn ystod ei amser hamdden yn hytrach nag actio.

Ar wahan i Close - ar parot syn meddwl ei fod yn gi! - difywyd yw'r actio ar y cyfan gyda Ioan Gruffudd wedi etifeddu rhan syn golygu nad oes cyfle iddo ond mynd drwyr mosiwns.

Yr oedd rhywbeth o naws actio mewn drama o gwmpas y peth wrth inni lithro o'n diwylliant cynhenid i'n diwylliant addysgol.

Yn ogystal â pherfformiadau unigol, ychwanegwyd at y profiad gan gyfuniad effeithiol o actio, delweddu, canu, symud a dawns.

'Taswn i'n actio'n rheolaidd mewn cyfres deledu hir neu mewn opera sebon, fel y bu+m i yn Coleg, yna mi fuaswn i'n colli'r cyfle yna.

Ond yn sydyn, tua chanol y gân dyma Wiliam Prichard yn rhoi bloedd fawr yng ngwyneb Mrs Owen wrth actio dal yr ysgyfarnog.

Y mae'r actio'n gryf ac yn glawstrophobig.

Go brin fod hynny yn fy ngwneud yn gymwys i siarad gydag unrhyw awdurdod am actio ac actorion ond fe fum yn darllen gyda diddordeb mwy na'r cyffredin am yr hyn oedd gan Josh Cohen i'w ddweud wrth edrych ymlaen at actio gyferbyn a Jerry Hall noethlymun yn The Graduate.

O'r foment honno doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd ond actio." Wedi bwrw'r fath brentisiaeth, ofer fu ei ymdrechion i fynd i ddysgu a hunllef oedd meddwl am wynebu llond stafell o blant ysgol.

'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.

"Biti 'na fasa chi wedi dwad ymlaen i gyfarfod Deilwen," sibrydai Menna, 'Does dim byd yn ffroenuchel ynddi, a mae hi'n meddwl y byd o gael actio yma." "Beth am Lewis Olifer?

o'u siarad a'u gwrando: eu gallu i siarad a gwrando mewn amrywiaeth o gyd-destunau; i fynegi syniadau, teimladau a safbwyntiau; i roi gwybodaeth a chyfarwyddiadau ac ymateb iddynt, i ddarllen ar goedd, i actio ac i drafod mewn grwpiau bach a mawr; Pa amodau gwaith sy'n berthnasol?

Er ei bod yn mwynhau'r cabaret, fe drodd at actio ychydig flynyddoedd yn ôl - yn gynta' fel ecstra mewn rhaglenni fel District Nurse ac hyd yn oed Pobol y Cwm.