Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addawol

addawol

Y mae'n gofiant i fardd ifanc addawol, ac y mae'r cerddi a gyhoeddir ynddo, ynghyd â'u cefndir, yn ychwanegu llawer at ein dirnadaeth o farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Sicrach - er nad cwbl sicr - ydyw fod bachgen arall addawol o dref Llanrwst ei hun, sef Edmwnd Prys, wedi bod yn ddisgybl gydag ef wrth draed caplan Gwedir y dyddiau hynny: yr oedd Prys ryw flwyddyn yn hyn na Morgan.

Fe'i collfarnwyd yn y wasg enwadol er iddi gael croeso gan Prosser Rhys, awdur y bryddest nwydus 'Atgof' yn yr un flwyddyn, fel 'un o'r darnau mwyaf addawol ac arwyddlon a sgrifennwyd gan fardd ifanc ers blynyddoedd'.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

Hyd yn oed o fewn sector sydd a chynrychiolaeth mor uchel nid yw'r rhagolygon am sefydlogrwydd economaidd yn rhai addawol iawn, gan fod llawer o'r ardal wedi'i dynodi yn Ardal Amaethyddol Llai Ffafriol.

Sawl llenor addawol yng Nghymru a laddodd ei hun neu amharu ar ei wir ddawn trwy ddewis ymateb i'r galwadau hyn yn hytrach nag i ofynion ei grefft?

Y mae Owen Sheers, o'r Fenni, eisoes wedi'i gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y mileniwm newydd.

Fe ddechreuodd pethau'n addawol ym mis Ionawr, pan laniodd Buck Rogers gan Feeder yn rhif pump yn siart y senglau.

Maen nhw mewn sefyllfa addawol yn ei gêm yn erbyn Caint ym mhedwaredd rownd Tlws y NatWest ar ôl i'r gêm yng Nghaergaint ddechraun hwyr ddoe oherwydd glaw.

Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.

Ar ôl dechrau'n addawol, fe'u sgubwyd o'r neilltu gan ddawn ac athrylith y gwyr o Fiji.

Gyda chymaint o grwpiau addawol yn gwneud eu gorau i adael eu marc ar y sîn, braf ydyw gweld label sydd yn barod i gefnogi cymaint ohonynt.

Rhoi cynnig ar Adran Arglwydd Faer Dinas Caerdydd - ymateb addawol a hynaws.

Paid â Siarad Efo Fi ydyr gân gynta sydd i'w chlywed ar y Cd , syn gopi hyrwyddo, ac maen agoriad gwych ac addawol iawn i'w gyrfa gerddorol.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

Biti am hyn ar ôl cael dwy act oedd yn datblygu'n addawol o ran plot a chymeriadaeth.

"Wasi," sibrydodd yn fy nghlust, "mae hi'n cychwyn yn addawol yma." "Ydi, 'ddyliwn," meddwn i, gan snwffian.

Ar ôl denu sylw fel cantores addawol, fe ddechreuodd ei band cynt' pan oedd hi'n ddeuddeg oed.

Maen focsiwr addawol iawn a wedi cyd-weithio gyda dau brofiadol a llwyddiannus iawn yn y gamp.

Cafwyd adroddiadau bore yma fod Caerdydd yn ceisio arwyddo'r chwaraewr rhyngwladol addawol Ryan Green o Wolves.

Mae rhywbeth yn yr awyr, ac yn edrych yn addawol.

Yr oedd y Pwyllgor Cyllid (ar gyfarwyddyd y Pwyllgor Gwaith, cofier) wedi dal gafael haearnaidd ar dreuliau'r wþl a theimlais fod y sefyllfa yn edrych yn ddigon addawol i ganiatau rhywfaint o ymlacio.

Cafwyd cychwyn addawol gan y Cymry hefyd.