Creaduriaid bach addfwyn ydyn nhw, gyda llygaid mawr brown.
Gallai Merêd fod yn ddifeddwl weithiau ond roedd o'n ddigon addfwyn drwy'r cwbl.
Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.
Eithr y mae'n amlwg nad oedd hyd yn oed disgyblion agosaf Iesu yn barod i fentro gydag ef yr holl ffordd ar y dulliau eraill - dulliau'r deyrnas, dulliau'r rhai addfwyn, y rhai pur o galon, y tangnefeddwyr, y dulliau y gellir eu galw, yn eu gwedd negyddol, yn 'ddulliau di-drais'.
Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.
Ond un addfwyn iawn ydoedd.
Fe glywais John Rowlands, Ty'n Cae a'i lais addfwyn a rhyw awgrymiad o chwerthin y tu ol iddo, yn dweud ei fod o'n cael mwy o hwyl o fywyd na'r cefnog.