Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addo

addo

Rwyn siwr bod hyn yn addo'n dda am ornest y penwythnos nesa.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Flwyddyn yn ôl, roedd Cadeirydd y Bwrdd newydd wedi cael ei ddewis a Dafydd Elis Thomas yn gwneud y rownds cyfryngol, yn addo chwyldro.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthod addo i beidio â chodi helynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Doedd hi'n nabod neb yno ond Tom, ac roedd o wedi addo peidio'i gadael.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Dyma oedd y geiriau y gofynnid i gefnogwyr eu harwyddo: "Yr wyf yn addo gwneud fy ngorau i sicrhau senedd i Sgotland, gyda hawliau mewn materion cartrefol".

Er iddi, meddai, ei gynghori i fynd i'r angladd yn groes i'w ewyllys, rhag i neb ei amau, ac addo dal dano, aethai at yr Uwch-arolygydd Prothero yn unswydd i'w fradychu.

Mynnodd Mike England y bydde Thomas yn cyrraedd a'i fod wedi bod ar y ffôn yn addo teithio i lawr yn y car gydag un o fois y Gymdeithas Bêl- droed.

Honnodd fod diwydianwyr ledled y byd, gyda chymorth yr economegydd Milton Friedman, wedi addo buddsoddi gwerth ugain biliwn o ddoleri yng Nghuba y diwrnod y caiff Fidel ei ddisodli.

"Roeddwn i wedi addo mynd yn syth i'r siop o'r ysgol.

Roedd hi'n ddigon hawdd addo, ac roedd nos yfory ymhell i ffwrdd.

Yn wir, y mae nifer dda o deulu'r Gornel wedi addo'u cefnogaeth eisoes, ac er mwyn penderfynu'r mater, a fuasai yr awgrymiadau sydd yn dilyn yn unol â dymuniadau'r lliaws?

Rhoes ef yn ofalus yn ei boced cyn cychwyn i'w waith, gan addo iddo'i hun y pleser - efallai!

"Mi rydw i yn addo peidio â cheisio dianc," ebe Douglas.

Diddorol gweld y gwleidyddion yn ymosod mor chwyrn ar Ken Livingstone am dorri ei air ac yntau wedi addo na fyddai yn sefyll yn etholiad mae'r Llundain.

Yr unig beth mae o'n addo ydy be mae'r pensiynwyr yn ei gael yn barod gan Lywodraeth Lafur, meddai.

Nid oedd yn addo gwyrthiau a minnau'n falch o ddychwelyd adref.

Rwy'n edrych ymlaen at wyliau yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf gan fy mod wedi addo Nadolig yng Nghymru i'r plant.

* * * * * Fel yr oedd Llefelys wedi addo yn ei lythyr, aeth i Lundain i weld Lludd yr wythnos ganlynol.

Mae Abertawe yn addo na fydd yna dan-gyflawni yn y gystadleuaeth eleni.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr Saesneg yn llaes feunyddiol.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Nid oedd y Llywodraeth wedi addo dim i'r cwmniau, honnai Lloyd George.

Davies honiad y Loteri mai cost y prosiect fyddai £345,000, gan fynnu fod y £100,000 sydd wedi ei addo i dalu'r costau i gyd.

"Dyma ti'r coesau yn ôl, ond cofia dy fod wedi addo," meddai'n garedig.

'Wel, wna i ddim addo galw bob tro, Mrs Williams - ond dwi'n siŵr y bydda i'n falch o'ch cymdogaeth dda.

'O do!' 'A gweld y Brenin yn hwylio i Afallon gan addo dod yn ôl.'

Y Prif Weinidog, Asquith, yn addo hunan-lywodraeth i Iwerddon.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Rydym yn addo bod yn agored ac yn atebol.

e'i gwelais, ond ni fedrai hwnnw ychwaith addo dim gan fod pethau'n bur wan.

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

Falle bydd rhain yn werth arian mawr o fewn ychydig o flynyddoedd, ac mae'r grwp wedi addo copïau fel gwobrau ar Gang Bangor, felly daliwch i wrando.

Er mor boblogaidd y digwyddiad gyda gwylwyr gartref mae trefnwyr golff yr Alban wedi addo mai ar eu gwaetha nhw y digwydd yr un peth yr wythnos hon yn y Royal and Ancient yn St Andrews lle chwaraeir yr Open eleni.

Byddent yn ysgrifennu ac yn gwerthu swynion i wella'r cynhaeaf, ac yn potelu cymysgeddau dirgel a fyddai'n addo ieuenctid tragwyddol i'r sawl a'u hyfai.

Da y cofiaf Jim yn cwympo yn ei hyd wrth gario cydaid o lo ar ei gefn ac yn addo "medal fel plat cino Dydd Sul" i'm ffrind a finne am helpu i glirio'r llanast.

Unwaith eto byddai merched ifanc iawn yn ymuno â lleiandai ac roedd disgwyl iddynt addo bod yn dlawd, yn bur ac yn ufudd am weddill eu hoes cyn eu bod yn un ar bymtheg oed.

Mrs Thatcher yn addo ychwanegiad cyflog.

Safle sydd wedi addo "gweddnewid y sin gerddoriaeth Gymraeg" dros y blynyddoedd nesaf.

Gofynnais wrthi faint o ferched oedd wedi addo ffarwelio â'u pwysau digroeso?