Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addoli

addoli

Hanes a phensaernïaeth mannau addoli yng Nghaerdydd a adeiladwyd yn ystod y mil o flynyddoedd diwethaf.

A ddylen nhw fod yn barod i roi'r iaith o'r neilltu dros eu cred ynte a ddylen nhw fod yn mynnu cael addoli yn eu hiaith eu hunain?

Ni fyddai modd disgwyl i genedl felly fod yn fodlon addoli'r Groegiaid paganaidd fel patrwm o wareiddiad a phrydferthwch.

Bu meini yn bwysig mewn defodau addoli er yn gynnar iawn.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Duw-ddyn'.

Iddo ef, yr oedd natur yr Iesu yn ranedig - yn ddyn ac yn Dduw - a rhaid oedd gwahaniaethu'n ofalus rhwng y ddau er mwyn osgoi pechod eilunaddoliaeth a ddilynai o ganlyniad i addoli yr hyn oedd yn ddynol yn ei natur.

Roedd hi wedi cytuno i gynorthwyo un o'r grwpiau sy'n addoli yn Glenwood.

Gadawodd y rhain gof am sefyll yn nannedd y sefydliad ar gost addoli mewn ogofeydd o olwg ysbi%wyr y Llywodraeth, ar gost carchar yn achos Vavasor Powell ac eraill, ac ar gost ei fywyd i John Penry.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Mae Morgan Pelagiws, y mynach o'r bumed ganrif, wedi'n perswadio'n ddidrafferth y gallwn fyw heb addoli a heb ofidio am bechod na cheisio gras a maddeuant.

Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Bu pobl yn addoli coed ers cyn cof, ac mae rhai pobl yn dal i wneud hynny hyd heddiw.

Roedd yna bobl yn dal i addoli Duw; mi roedden ni'n ffilmio ac mi roedd hi'n bwysig iawn ei fod o'n cael ei ddangos.

Wrth sefyll yn Eglwys Glenwood sy'n gosod pwyslais mor iach ar addoli a gwaith cymdeithasol, braf oedd darllen geiriau C.S. Lewis ynghylch gobaith y Cristion a'i genhadaeth.

Prin y gall neb yr amddifadwyd ei fro o reilffyrdd gan y Dr Beeching cul ei welediad ymatal rhag hanner addoli'r Rhatische Bahn, rheilffordd y canton, y Ferrovia Retica, y Viafier Retica (Rhaetia yw hen enw Rhufeinig y rhanbarth).

A ble'r oedd bobl hyn yn addoli?

Gwyddys, yn wir, fod y Lolardiaid wedi dal i ddarllen eu Beiblau a pharhau i addoli yn y dirgel i lawr hyd at adeg y Diwygiad Protestanaidd.

Doedd dim bri mwyach ar addoli Duw.

Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.

Fe ddylech fynnu eich bod yn cael addoli yn eich mamiaith.

Felly mae'n chwilio am fachyn i gydio ynddo ac mae'n gyfleus iddo addoli Gwylan (yn hytrach na'i charu) a chofleidio'i daliadau - dros dro: wedi'r cyfan y daliadau hynny a rydd iddo'r cryfder i ddirwyn ei ddyweddi%ad â Lisabeth i ben a gwrthryfela yn erbyn diogelwch diantur ei fagwraeth.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Nid yw gorfoledd bellach yn un o brif nodweddion yr addoli yn yr eglwysi.

Chaen nhw ddim hyd yn oed addoli na chydnabod eu crefydd yn agored.

Cydnebydd y ddau eu bod yn dilyn 'hen grefydd y Celtiaid' ac yn 'addoli natur'.

Yn yr hen fyd yr oedd pobl yn addoli neu'n dwyfoli pethau cree%dig.

Yma yr wyf o hyd, yn addoli yn Saesneg ac yn byw gyda'r Brodyr.

Os oedd y gweithwyr yn addoli yn 'nheml duw y gwin', meddai, y meistri haearn oedd ar fai.

Bydd yno gapel ac ysgol a senedd-dŷ a'r heniaith yn gyfrwng addoli a masnachu, dysgu a llywodraethu.

Mi wn i iddi gael ei magu ar Ynys Islay yn yr Hebredies (ynys y bu+m innau arni hi, ddwy flynedd yn ôl, am fymryn o wyliau) a'i bod hi, bellach, yn byw yng Nghaernarfon, yn ardal Twtil, a'i bod hi'n addoli'n gyson yn Eglwys y Santes Fair.

Aeth Mr Rowlands a'i deulu ynghyd a mintai o ffyddloniaid eraill i addoli'r drws nesaf ym Mhenuel.

ond ddylen ni ddim addoli pob bardd cadeiriol chwaith.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Arferent addoli nwyddau oherwydd credent mai duwiau oedd y bodau estron a ddisgynnai o'r awyr yn eu peiriannau rhyfel ac a ddeuai ag anrhegion gyda hwy.

Er bod Mathew Tomos y Plant a'i deulu yn wynebu cyni a dioddefaint, pobl sy'n plygu dan yr iau'n ddirwgnach ydynt hwy, gan addoli teulu Pen y Bryn yn ddigwestiwn.

Am ei fod yn dywedyd ynddo, 'Nad yw Crist i'w addoli fel Person Dwyfol'.

Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.

Byddai'r Eifftiaid yn addoli'r haul a'r Babiloniaid y lleuad.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.

Fel y gwelir oddi wrth y Salmau, y mae byd natur yn tystio i ogoniant Duw ac felly yr oedd yn gwbl briodol gweu cyfeiriadau at fyd natur â chyfeiriadau at drugaredd a ffyddlondeb Duw wrth addoli.

Gomiwnyddiaeth, adferwyd rhyddid addoli.