Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addoliad

addoliad

Ni wn a oedd a wnelai hyn a'r ffaith fod Thomas Griffiths, tad mam, yn wr o feddwl annibynnol nad ai yn agos at le o addoliad.

Bu'r sêr yn wrthrychau addoliad mewn llu o wledydd.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Gwelsai yn Lloegr ac yn Ewrop nerth y Gair a'r addoliad yn y famiaith a'u dylanwad pellgyrhaeddol ar y bobl.

Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad.

Amcan yr eglwys golegol oedd gwasanaethu holl anghenion crefyddol y bobl a bod yn ganolfan gweddi ac ympryd ac addoliad.