Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addurniadau

addurniadau

Ac yr oeddent yn ffieiddio'r defodau a'r gwisgoedd a'r addurniadau eglwysig anysgrythurol a gyfrifent yn olion Pabyddiaeth.

Mae'r Antur, hefyd, wedi sefydlu canolfan arddio sy'n cynnig amrywiaeth o blanhigion, llwyni coed, alpau a grug ac amrywiaeth o ddodrefn, thybiau pren a choncrit ac addurniadau ar gyfer yr ardd a'r patio.

Gair camarweiniol yw 'addurniadau' yma, gan ein bod yn ystyried y cyfryw bethau, er yn wledd i lygad, yn rhai nad oes raid wrthynt.

Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.

Er mwyn sicrhau hyn, bu'n rhaid iddi meddai, 'adael allan addurniadau arddull yn aml iawn.'

Ac addurniadau, a chracyrs, a phethau i'w rhoi ar y goeden, a fferins i'r plant...