Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addurno

addurno

Wedyn aed ati i blastro, i beintio ac i addurno.

A dyna'r celyn wedyn, arwydd o fywyd tragwyddol, sy'n cael ei ddefnyddio o hyd i addurno tai adeg y Nadolig.

Cerdded y gwaliau a llwybreiddio fy ffordd o'r Forum - sgwâr braf gyda'r deml i Jupiter yn llanw un pen iddi a'r Basilica a themlau Apollo a Venus yn addurno'r pen arall.

Ar Galan Mai ers talwm byddai'n arferiad addurno bedwen dal a dawnsio o'i chwmpas.

Ar y Sadwrn cyntaf o Orffennaf bydd gwibdaith arall yn mynd i weld y grefft o addurno'r ffynhonnau yn ardal Bakewell a'r cylch.

America oedd bennaf ym meddwl Glenys wrth iddi addurno'r eglwys ar gyfer Diolchgarwch.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Mae'r goeden yn symbol o'r Atgyfodiad ac fe i defnyddir i addurno eglwysi adeg y Pasg.

Helynt y criw wrth iddynt fynd ati i addurno.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Roedd yr hynaf wrthi'r diwrnod o'r blaen yn codi clamp o gastell a'i addurno â cherrig a gwymon ac yna gwneud ffos o'i gwmpas yn barod i ddal dŵr y môr yn dod i mewn?

Mae'r arferiad o addurno'r tai gyda phob math o ddeiliach fythwyrdd yn mynd yn ôl i'r oesoedd paganaidd pan oedd pobl yn cael eu hudo gan y coed fythwyrdd oedd yn ffynnu fel pe baent o dan rhyw ddylanwad hudol yn ystod hirlwm y gaeaf pan oedd pob dim arall yn ymddangos yn farw.

Graffiti masnachol yw llawer o'r posteri sy'n addurno waliau yr ieuenctid yn bennaf ac mae rhai o bosteri mudiadau gwleidyddol Cymru yn enghreifftiau o graffiti gwleidyddol ar raddfa torfol.

Mae'n amlwg fod yn well gan bobl eu cael mewn blychau plastig, wedi eu coginio a'u trochi mewn finegr ar gyfer eu tafellu i addurno salad.

Mae lluniau o Juan ac Eva Pero/ n yn addurno cartref Menem yn La Rioja.

Cafodd Delyth Rowlands o Glwb Llangoed gyntaf am osod blodau ar y thema 'Cwpan y Byd' a daeth Gwen Peters o'r un clwb yn drydydd am addurno wy.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Ond roedd yna rai rheolau pendant ynglŷn ag addurno'r tai ar gyfer yr ŵyl.

Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.

Honnir iddi orchymyn llysgennad Ariannin yn Awstralia i ddanfon cangarw adre er mwyn addurno gardd y palas arlywyddol.