Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

addysgiadol

addysgiadol

Fodd bynnag, o safbwynt cadwraethol ac addysgiadol, dylid annog y defnydd o bethau heblaw mawn, a thrafod y rhesymau dros hynny gyda'r plant.

Dyma sefydliad addysgol sy'n angenrheidiol i ddyfodol addysgiadol ac economaidd yr ardal.

Llyfrau durchafol ac addysgiadol oedd ganddi, dim byd ysgafn a salw.

Wrth gwrs, ysgol brofiad ydy un o'r dulliau addysgiadol gorau mewn unrhyw faes.

Cafwyd Noson addysgiadol, a mwynhawyd yn fawr iawn gan yr aelodau.

Llyfrau bwrdd addysgiadol i blant ifanc.

Yn fwy ffodus na Mary, druan, mae hi wedi cyflawni gofynion rhaglen addysgiadol Mr Evans, hen weinidog Blaenycwm ac wedi dychwelyd i wareiddio Cymru.

Hoffwn weld 'Noson o Siarad Cyhoeddus' yn ymddangos ar raglen pob clwb bob blwyddyn pe ond am y gwerth addysgiadol sydd iddi.

Pnawn addysgiadol arall yn olrhain hanes datblygiad y lein, y gweithfeydd oedd yn gysylltiedig a'r datblygiad yma a'r bobl oedd ynglŷn â'r holl fenter.

Aeth ambell aelod o'r gynulleidfa adref mewn dagrau, eraill mewnsyndod ond pawb yn teimlo iddynt elwa o weld perfformiad diddorol, grymus ac addysgiadol.

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Diolch iddyn nhw, nid yn unig am bnawn diddorol ac addysgiadol ond hefyd am bnawn o'u hatgofion difyr hwythau.

Mae treulio wythnos yn theatr Fach wedi bod yn brofiad addysgiadol iawn i BW wrth sylwi ar holl weithgaredd tu ol i lenni'r Theatr ac mae'r hyn y mae wedi ei weld wedi ennyn brwdfrydedd ac edmygedd.

Byddai rhain yn gyfarfodydd difyr ac addysgiadol.

Ond un o brif nodweddion y cyfnod comiwnyddol oedd ardderchogrwydd y gyfundrefn addysgiadol.

Ceid ambell ysgrif addysgiadol, fel yr un ar fywyd yr Athro E.

Trip addysgiadol ydyw a sbort a hwyl yn gymysg.

Y mae'r profion medrusrwydd wedi bod yn bwysig ac yn addysgiadol i lu mawr o fechgyn a genethod y Sir ac y mae dyled y mudiad i hyfforddwyr ymroddedig yn fawr.

Ysgolion cyfagos yn cydweithio ac yn cronni adnoddau i sicrhau'r ystod ehangaf o brofiadau addysgiadol a chysylltiadau cymdeithasol i ddisgyblion tra'n cadw'r addysg o fewn y gymuned leol.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.

Mae tair rhan i Warchodfa o'r fath; y rhan addysgiadol sy'n arddangos adar dof i'r ymwelwyr, a'r rhan sy'n ymwneud â gwaith ymchwil, ac yn datblygu dulliau o fagu rhywogaethau prin a'u dychwelyd i'w cynefin gwyllt naturiol.